Apocryffa'r Testament Newydd

Tudalen o Godecs Tchacos, brwynbapur Copteg o'r 4g sydd yn cynnwys yr Efengyl yn ôl Jwdas.

Ysgrifau gan Gristnogion yn oes yr Eglwys Fore sydd yn cynnwys straeon am fywyd Iesu Grist a'i ddysgeidiaeth, natur y Duw Cristnogol, neu ddysgeidiaeth a bywydau'r apostolion yw Apocryffa'r Testament Newydd. Cafodd rhai ohonynt eu hystyried yn ysgrythur gan Gristnogion cynnar, ond ers y 5g ni chynhwysir y gweithiau hyn yng nghanon y Testament Newydd, ac felly fe'i ystyrient yn apocryffa.

Rhwng yr 2g a'r 4g, ysgrifennwyd mwy na chant o lyfrau gan awduron Cristnogol a ystyrir yn Apocryffa. Nodai'r fath weithiau gan eu ffurf gyffredin, sydd yn debyg i genres y Testament Newydd (efengyl, actau, epistolau, ac apocalyps), a'r ffaith nad ydynt yn perthyn i ganon y Testament Newydd nac i ysgrifeniadau Tadau'r Eglwys. Ysgrifennwyd nifer ohonynt gan y Gnostigiaid, a chawsant eu rhannu ymhlith y rhai a ynydwyd yn unig. Cafodd eraill eu hysgrifennu ar gyfer yr eglwysi cyffredinol, ond na chawsant eu derbyn yn rhan o'r canon Beiblaidd.


Developed by StudentB